Mae prosiect y Bin Hapus wedi ei ddylunio ar gyfer disgybion Cyfnod Allweddol 2 yn ysgolion cynradd y Deyrnas Unedig. Mae'n defnyddio'r cwriciwlwm presennol mewn ffordd creadigol i drafod dau broblem amgylcheddol cyfoes:
Mae'r brosiect yn cychwyn gyda sioe pypedau proffesiynol gan Pypedau Vagabondi, er mwyn ysbrydoli'r disgyblion.
Mae'r pypedau yn cyflwyno'r plant i'r problemau o waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi. Mae'r sioe yn atgoffa plant o'r posibiliadau o ail-ddefnyddio ag ailgylchu ond yn bwysicach na hynny, mae'n datblygu'r thema ym mhellach.
Mae'n dangos i'r plant y potensial o leihau a gwrthod gwastraff gyda chydweithrediad positif y gymuned.
Am chwech wythnos, yn dilyn y sioe pypedau, fel rhan o'r cwricwlwm gwyddoniaeth, llenyddiaeth, mathamateg, technoleg gwybodaeth ag arlunio creadigol, bydd y plant yn gweithio trwy gyfres o ddeuddeg gwers sydd wedi eu pharatoi yn broffesiynol gan y prosiect.
Bydd y gwersi yma yn helpu'r plant i ddeall rhai o'r problemau amgylcheddol sydd wedi eu greu o ganlyniad y gwastraff rydym yn creu ac yn eu hannog i archwilio syniadau o sut i leihau a gwrthod y gwastraff.
Yn ychwanegol, bob wythnos bydd y plant yn casglu a phwyso'r gwastraff mae'r ysgol yn cynhyrchu a wedyn ebostio'r canlyniadau i'r gwefan. Bydd cyfanswm y gwastraff sy'n cael eu greu gan pob ysgol a'r gwastraff sy'n cael eu greu gan pob disgybl yn cael eu ddangos ar y gwefan yma.
Er mwyn darparu meincnod a tharged ar gyfer y disgyblion mae’r graff yn cynnwys dwy golofn ychwanegol:
Y bin tristaf trist hyd yn hyn: Mewn prosiectau blaenorol roedd yr ysgolion mwyaf gwastraffus yn cael gwared â mwy na 800 gram o wastraff y disgybl bob wythnos ar y dechrau. Yn ystod wythnosau cyntaf y prosiect hwn mae’r golofn yn rhoi syniad clir i’r disgyblion o ba mor wastraffus yw eu hysgol nhw o’i chymharu ag eraill.
Y bin hapusaf hyd yn hyn: Mewn prosiect blaenorol llwyddodd disgyblion un ysgol i leihau eu gwastraff i ddim ond 20 gram y disgybl yr wythnos. Y golofn fechan hon yw’r targed i’r set bresennol o ysgolion.
Rydym yn gwybod o brofiad bod yr ysgogiad o ebostio a chyhoeddu canlyniadau pwysau gwastraff eu hysgolion yn annog y disgyblion i leihau eu cyfraniad i'r safle tirlenwi.
I ddatblygu "sgiliau bwrdeisiaeth" mae'r plant hefyd yn rhannu eu "syniadau da am leihau gwastraff" a'u "problemau wrth leihau gwasraff" gyda disgyblion arall mewn ysgolion sy'n cymryd rhan trwy'r fforwm diogel sydd ar y gwefan.
Mae prosiect y Bin Hapus wedi cael ei gynllunio gan athrawon sydd â ymwybyddiaeth am beth gall cael eu gyflawni yn ymarferol yn y dosbarth. Mae hyfforddiant wedi cael eu ddarparu i staff yr ysgolion eisioes yn y Ganolfan Technoleg Amgen am sut mae'r prosiect yn gweithio,
Mae ecodyfi yn rheoli'r ochr ariannol a'r gwerthusiad o gwahanol camau y prosiect.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn datblygu'r prosiect yn unai eich ysgol neu'ch ardal, plis cysylltwch â un o'r canlynol:
01223 861010
01970 832161
Green Egg Company
01654 761590
The project has been developed and supported by these organisations.
© 2007 Y Bin Hapus